ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery'r ddaear gwialen ei enau, ac gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.
Ac yn y dydd hwnnw fe estyn yr ARGLWYDD ei law drachefn i adennill gweddill ei bobl a adewir, o Asyria a'r Aifft, o Pathros ac Ethiopia ac Elam, o Sinar a Hamath ac o ynysoedd y mr.
Ond disgynnant ar lethrau'r Philistiaid yn y gorllewin, ac ynghyd fe ysbeiliant y dwyreinwyr; bydd Edom a Moab o fewn eu gafael, a phlant Ammon yn ufudd iddynt.
Gwna'r ARGLWYDD yn sychdir dafod mr yr Aifft; chwifia'i law dros yr Ewffrates, ac 'i wynt deifiol fe'i hollta yn saith o ffrydiau, i'w throedio yn droetsych.