Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, "Molaf di, O ARGLWYDD; er iti ddigio wrthyf, trodd dy lid, a rhoist gysur imi. |
| 2 |
| Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; 'rwy'n hyderus, ac nid ofnaf; canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cn, ac ef yw fy iachawdwr." |
| 3 |
| Mewn llawenydd fe dynnwch ddu373?r o ffynhonnau iachawdwriaeth. |
| 4 |
| Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, "Diolchwch i'r ARGLWYDD, galwch ar ei enw; hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd, cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf. |
| 5 |
| Canwch salmau i'r ARGLWYDD, canys enillodd fuddugoliaeth; hysbyser hyn yn yr holl dir. |
| 6 |
| Bloeddia, llefa'n llawen, ti sy'n preswylio yn Seion; canys y mae Sanct Israel yn fawr yn eich plith." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/isaiah/012.mp3
66
12