Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Bryd hynny, byddi'n dweud: “Dw i eisiau diolch i ti, O ARGLWYDD! Er dy fod wedi digio gyda fi, rwyt wedi troi oddi wrth dy ddig a'm cysuro. |
| 2 |
| Edrychwch ar y Duw sydd wedi fy achub i! Bydda i'n ei drystio, a fydd gen i ddim ofn. Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Yr ARGLWYDD sydd wedi fy achub i.” |
| 3 |
| Byddwch yn codi dŵr yn llawen o ffynhonnau achubiaeth. |
| 4 |
| Byddwch yn dweud bryd hynny: “Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw. Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e; Cyhoeddwch fod ei enw wedi ei godi'n uchel. |
| 5 |
| Canwch salmau i'r ARGLWYDD, am iddo wneud peth mawr! Gwnewch yn siŵr fod y byd i gyd yn gwybod am y peth! |
| 6 |
| Bloeddiwch ganu'n llawen, chi sy'n byw yn Seion! Mae'r Un sydd yn eich plith yn fawr — Un Sanctaidd Israel.” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/012.mp3
66
12