×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseia 13

1
Yr oracl am Fabilon; yr hyn a welodd Eseia fab Amos.
2
Dyrchafwch faner ar fynydd moel, codwch lef tuag atynt; amneidiwch 'ch dwylo iddynt ddod i mewn i byrth y pendefigion.
3
Gorchmynnais i'r rhai a gysegrais; ie, gelwais ar fy ngwu375?r cedyrn i weithredu fy nicter, y rhai sy'n falch o'm gorchest.
4
Clywch, su373?n tyrfa ar y mynyddoedd, fel pobloedd heb rifedi! Clywch, dwndwr teyrnasoedd, fel cenhedloedd wedi eu crynhoi. ARGLWYDD y Lluoedd sydd yn cynnull y llu ar gyfer brwydr.
5
Dnt o wlad bell, o eithaf y nefoedd offer llid yr ARGLWYDD i ddifa'r holl dir.
6
Udwch, y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
7
Am hynny fe laesa'r holl ddwylo, a bydd pob calon yn toddi gan fraw.
8
Bydd poen ac artaith yn cydio ynddynt; byddant mewn gwewyr fel gwraig wrth esgor. Edrychant yn syn ar ei gilydd, a'u hwynebau'n gwrido fel fflam.
9
Wele, daw dydd yr ARGLWYDD, yn greulon gan ddigofaint a llid, i wneud y ddaear yn ddiffaith a dileu ei phechaduriaid ohoni.
10
Bydd sr y nefoedd a'u planedau yn atal eu goleuni; tywylla'r haul ar ei godiad, ac ni oleua'r lloer 'i llewyrch.
11
Cosbaf y byd am ei bechod, a'r drygionus am eu camwedd; gwnaf i falchder y beiddgar beidio, gostyngaf ymffrost y trahaus.
12
Gwnaf bobl yn brinnach nag aur coeth, a'r ddynoliaeth nag aur Offir.
13
Am hynny fe gryna'r nefoedd ac ysgydwir y ddaear o'i lle, oherwydd digofaint ARGLWYDD y Lluoedd yn nydd angerdd ei lid.
14
Fel ewig wedi ei tharfu, fel praidd heb neb i'w corlannu, bydd pawb yn troi at ei dylwyth, a phob un yn ffoi i'w gynefin.
15
Trywenir pob un a geir, a lleddir 'r cleddyf bob un a ddelir.
16
Dryllir eu plant o flaen eu llygaid, ysbeilir eu tai, treisir eu gwragedd.
17
Wele, yr wyf yn cyffroi yn eu herbyn y Mediaid, rhai nad yw arian yn cyfrif ganddynt, ac na roddant bris ar aur.
18
Dryllia'u bwu y gwu375?r ifanc; ni thosturiant wrth ffrwyth y groth, nac edrych yn drugarog ar blant.
19
A bydd Babilon, yr odidocaf o'r teyrnasoedd, a gogoniant ysblennydd y Caldeaid, fel Sodom a Gomorra wedi i Dduw eu dinistrio.
20
Ni chyfanheddir hi o gwbl, na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau; ni phabella'r Arab o'i mewn, ac ni chorlanna'r bugail ynddi.
21
Ond bydd anifeiliaid gwyllt yn gorwedd yno; llenwir hi gan ffeuau i greaduriaid swnllyd; bydd yr estrys yn trigo yno, a bychod yn llamu yno;
22
bydd y siacal yn cyfarth yn ei thyrau, a'r hiena yn ei phlastai hyfryd. Y mae ei hamser wrth law, ac nid estynnir ei dyddiau.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau