Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yr oracl am Moab: Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab; y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab. |
| 2 |
| Dringa merch Dibon i'r uchelfa i wylo; dros Nebo a thros Medeba fe uda Moab. Bydd moelni ar bob pen, a phob barf wedi ei heillio; |
| 3 |
| gwisgir sachliain yn yr heolydd; ar bennau'r tai, ac yn sgwr y dref, bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo. |
| 4 |
| Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain, a chlywir eu cri hyd Jahas; am hynny bydd lwynau Moab yn crynu, ac yntau yn ysgwyd drwyddo. |
| 5 |
| Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab. Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell Soar, hyd Eglathshalisheia; dringant riw Luhith dan wylo, a thorri calon ar ffordd Horonaim. |
| 6 |
| Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir; gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni. |
| 7 |
| Am hynny cludant dros nant Arabim yr eiddo a'r enillion a gasglwyd ganddynt. |
| 8 |
| Aeth y gri o amgylch terfynau Moab, nes bod udo yn Eglaim, ac udo yn Beer-elim. |
| 9 |
| Y mae dyfroedd Dimon yn llawn o waed, ond dygaf waeth eto ar Dimon llew ar warthaf ffoaduriaid Moab, ac ar warthaf y gweddill yn y tir. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/isaiah/015.mp3
66
15