Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Neges am Moab. Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Ar yn Moab ei difrodi'n llwyr; Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Cir yn Moab ei difrodi'n llwyr. |
| 2 |
| Maen nhw wedi mynd i'r deml, ac i'r allor leol yn Dibon i wylo. Mae Moab yn udo am beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba. Mae pob pen yn foel, pob barf wedi ei siafio, |
| 3 |
| ac maen nhw'n gwisgo sachliain yn y strydoedd. Mae pawb yn udo ac yn beichio crïo ar bennau'r tai ac yn y sgwariau. |
| 4 |
| Mae sgrechian yn Cheshbon ac Eleale, ac mae'r sŵn i'w glywed mor bell â Iahats. Felly, mae milwyr Moab yn gweiddi a crynu trwyddynt mewn ofn. |
| 5 |
| Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab — a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soar ac Eglath-shalisheia. Maen nhw'n wylo wrth ddringo ar lethr Lwchith Mae gwaedd dinistr yn codi ar y ffordd i Choronaïm. |
| 6 |
| Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu; mae'r glaswellt wedi gwywo, a phob tyfiant yn methu. Mae pob planhigyn wedi diflannu. |
| 7 |
| Felly, maen nhw'n cario eu cynilion a'u heiddo dros Sychnant yr Helyg. |
| 8 |
| Ydy, mae sŵn y sgrechian wedi lledu drwy wlad Moab i gyd: mae'r udo i'w glywed mor bell ag Eglaim, hyd yn oed yn Beër-elim! |
| 9 |
| Mae dyfroedd Dimon yn llawn gwaed. Ond dw i'n mynd i wneud pethau'n waeth eto i Dimon: Bydd llew yn ymosod ar weddill Moab, a'r rhai sydd ar ôl yn y tir. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/015.mp3
66
15