×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseia 16

1
Anfonodd llywodraethwr y wlad u373?yn o Sela yn yr anialwch i fynydd merch Seion.
2
Y mae merched Moab wrth rydau Arnon fel adar aflonydd wedi eu troi o'u nythod.
3
"Dwg gyngor, gwna dy fwriad yn glir; bydded dy gysgod fel nos drosom, hyd yn oed ar ganol dydd; cuddia'r ffoaduriaid, paid bradychu'r crwydriaid.
4
Bydded i ffoaduriaid Moab aros gyda thi; bydd di yn lloches iddynt rhag y dinistrydd." Pan ddaw diwedd ar drais, a pheidio o'r ysbeilio, a darfod o'r mathrwyr o'r tir,
5
yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch, ac arni fe eistedd un ffyddlon ym mhabell Dafydd, barnwr yn ceisio barn deg ac yn barod i fod yn gyfiawn.
6
Clywsom am falchder Moab mor falch ydoedd ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd, heb sail i'w hymffrost.
7
Am hynny fe uda Moab; uded Moab i gyd. Fe riddfana mewn dryswch llwyr am deisennau grawnwin Cirhareseth.
8
Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma; drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion; buont yn cyrraedd hyd at Jaser, ac yn ymestyn trwy'r anialwch. Yr oedd ei blagur yn gwthio allan, ac yn cyrraedd ar draws y mr.
9
Am hynny wylaf dros winwydd Sibma fel yr wylais dros Jaser; dyfrhaf di 'm dagrau, Hesbon ac Eleale; canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.
10
Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd; mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd, ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau, a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr.
11
Am hynny fe alara f'ymysgaroedd fel tannau telyn dros Moab, a'm hymysgaroedd dros Cir-hareseth.
12
Pan ddaw Moab i addoli, ni wna ond ei flino'i hun yn yr uchelfa; pan ddaw i'r cysegr i weddo, ni thycia ddim.
13
Dyna'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moab gynt.
14
Yn awr fe ddywed yr ARGLWYDD, "Ymhen tair blynedd, yn l tymor gwas cyflog, bydd gogoniant Moab yn ddirmyg er cymaint ei rhifedi; bydd y rhai sy'n weddill yn ychydig ac yn ddibwys."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau