×

Beibl Cymraeg 2023

Eseia 16

1
Anfon oen oddi wrth lywodraethwr y wlad, o Sela yn yr anialwch i fynydd Seion hardd:
2
“Mae merched Moab wrth rydau Arnon, fel adar wedi eu tarfu a'u gyrru o'r nyth.
3
Rhowch gyngor! Gwnewch benderfyniad! Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn, fel oerni'r nos rhwng gwres dau ddydd: Cuddiwch ein ffoaduriaid! Peidiwch bradychu'r rhai sy'n ffoi.
4
Rhowch loches i ffoaduriaid Moab; Cuddiwch nhw rhag y gelyn sy'n dinistrio.” Pan fydd yr un creulon wedi diflannu, a'r ysbeilio wedi dod i ben, a'r gormeswyr wedi diflannu o'r tir,
5
bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu — un o deulu Dafydd. Bydd yn teyrnasu'n ffyddlon, bydd yn frwd dros gyfiawnder ac yn hybu tegwch.
6
“Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab — mae ei phobl mor falch! Yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug — ond mae ei brolio hi'n wag.”
7
Felly, mae Moab yn udo; mae pawb yn Moab yn udo! Mae'r rhai a anafwyd yn griddfan am deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth.
8
Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbon a gwinllannoedd Sibma wedi gwywo. Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloedd wedi torri eu gwinwydd gorau. Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser, ac yn ymestyn i'r anialwch; roedd eu brigau wedi ymledu ac yn cyrraedd at y môr.
9
Felly dw i'n wylo gyda Iaser dros winwydd Sibma. Gwlychaf di â'm dagrau Cheshbon ac Eleale, am fod y gweiddi llawen am ffrwythau aeddfed dy gynhaeaf wedi dod i ben.
10
Mae'r miri a'r hwyl wedi ei ysgubo i ffwrdd o'r gerddi. Does dim canu na sŵn dathlu i'w glywed yn y gwinllannoedd. Does neb yn sathru'r grawnwin i'r cafnau — mae'r bwrlwm wedi tewi.
11
Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn, a'r cwbl sydd yno i dros Cir-cheres.
12
Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol, ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr, fydd dim byd yn tycio.
13
Dyna'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o'r blaen.
14
Ond mae'r ARGLWYDD yn dweud nawr: Mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl — neb o bwys.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau