Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Gwae wlad yr adenydd chwim wrth afonydd dwyrain Affrica! Mae'n anfon negeswyr dros y môr, mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr. |
| 2 |
| Ewch, negeswyr cyflym, at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn — pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman; cenedl gref sy'n hoffi ymladd, sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd. |
| 3 |
| “Gwrandwch bawb drwy'r byd i gyd; pawb sy'n byw ar y ddaear: Byddwch yn ei weld! — fel baner ar ben y bryniau. Byddwch yn ei glywed! — fel sŵn y corn hwrdd yn cael ei chwythu!” |
| 4 |
| Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Dw i'n mynd i aros yn llonydd ac edrych o'm lle — fel tes yr haul yn tywynnu, neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.” |
| 5 |
| Adeg y cynhaeaf grawn, pan mae'r blagur wedi mynd, a'r grawnwin yn dechrau aeddfedu, bydd yn torri'r brigau gyda chyllell, ac yn tocio'r canghennau sy'n lledu. |
| 6 |
| Bydd y cwbl yn cael ei adael i'r eryrod ar y mynydd ac i'r anifeiliaid gwylltion. Bydd yr adar yn byw drwy'r haf arnyn nhw, a'r anifeiliaid gwylltion trwy'r gaeaf. |
| 7 |
| Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn yn dod â rhoddion i'r ARGLWYDD holl-bwerus — pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman; cenedl gref sy'n hoffi ymladd, sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd. Dônt i'r lle mae enw'r ARGLWYDD holl-bwerus arno: i Fynydd Seion. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/018.mp3
66
18