Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon): Fel y gwyntoedd stormus sy'n rhuthro drwy'r Negef, mae e'n dod o'r anialwch, o wlad sydd i'w hofni. |
| 2 |
| Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi: “Mae'r bradwr yn bradychu, a'r dinistrydd yn dinistrio! Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media! Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi ei achosi.” |
| 3 |
| Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd; Mae poenau yn gafael yno i fel gwraig mewn poen wrth gael babi. Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed, ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld. |
| 4 |
| Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig. Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef: |
| 5 |
| Mae “Trefnwch wledd” wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!” “Bwytwch ac yfwch!” wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tariannau!” |
| 6 |
| Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i: “Dos, gosod wyliwr i edrych allan, a dweud beth mae'n ei weld. |
| 7 |
| Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau, marchog ar asyn neu farchog ar gamel, dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.” |
| 8 |
| Yna dyma'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel: “Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd, ac wedi edrych allan bob nos. |
| 9 |
| Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod — Dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!” Ac mae'n gweiddi'n uchel, “Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio! Mae'r delwau o'i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!” |
| 10 |
| Chi sydd wedi dioddef — fy mhobl ar fy llawr dyrnu: Dw i wedi dweud wrthoch chi beth glywais i gan yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel. |
| 11 |
| Neges am Dwma. Mae rhywun yn galw arna i o Seir: “Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl? Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?” |
| 12 |
| Atebodd y gwyliwr, “Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl. Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch. Trowch! Dewch yn ôl!” |
| 13 |
| Neges am Arabia. Cuddiwch yn nrysni'r anialwch, chi grwydriaid Dedan! |
| 14 |
| Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig, chi sy'n byw yn Tema; rhowch fara i'r ffoaduriaid, |
| 15 |
| achos maen nhw'n dianc rhag y rhyfel: rhag y cleddyf wedi ei dynnu o'r wain, rhag y bwa sy'n barod i saethu, a rhag caledi'r frwydr. |
| 16 |
| Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union bydd ysblander Cedar wedi darfod; |
| 17 |
| nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/021.mp3
66
21