1
Baich anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd; felly y daw o'r anialwch, o wlad ofnadwy.
2
Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a'r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i'w holl riddfan hi ddarfod.
3
Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a'm daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled.
4
Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a'm dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi.
5
Paratoa y bwrdd, gwylia yn y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneiniwch y darian.
6
Oherwydd fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Dos, gosod wyliedydd, myneged yr hyn a welo.
7
Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben.
8
Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos.
9
Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr.
10
O fy nyrniad, a chnwd fy llawr dyrnu! yr hyn a glywais gan ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, a fynegais i chwi.
11
Baich Duma, Arnaf fi y mae yn galw o Seir, Y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos?
12
Dywedodd y gwyliedydd, Daeth y bore a'r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dychwelwch, deuwch.
13
Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim.
14
Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â'r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â'i fara.
15
Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant, rhag y cleddyf noeth, a rhag y bwa anelog, a rhag trymder rhyfel.
16
Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi, Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar:
17
A'r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar, a leiheir: canys ARGLWYDD DDUW Israel a'i dywedodd.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society