Oherwydd y mae gan yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, ddiwrnod o derfysg, o fathru ac o ddryswch yn nyffryn y weledigaeth, diwrnod o falurio ceyrydd ac o weiddi yn y mynyddoedd.
ond dyma lawenydd a gorfoledd, lladd gwartheg a lladd defaid, bwyta cig ac yfed gwin, a dweud, "Gadewch inni fwyta ac yfed, oherwydd yfory byddwn farw."
Datguddiodd ARGLWYDD y Lluoedd hyn yn fy nghlyw, a dweud, "Yn wir, ni lanheir yr drygioni hwn nes i chwi farw." Dyna a ddywedodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
'Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma, dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun, gan dorri dy fedd ar le uchel a naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?
bydd yn dy chwyrlo amgylch ogylch, ac yn dy daflu fel pl ar faes agored, llydan. Yno y byddi farw, ac yno yr erys dy gerbydau mawreddog, yn warth i du375? dy feistr.
Gosodaf allwedd tu375? Dafydd ar ei ysgwydd; beth bynnag y bydd yn ei agor, ni fydd neb yn gallu ei gau, a beth bynnag y bydd yn ei gau, ni fydd neb yn gallu ei agor.
Yn y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "fe symudir yr hoelen a osodwyd yn sicr yn ei lle; fe'i torrir ac fe syrthia; dryllir hefyd y llwyth a oedd arni." Llefarodd yr ARGLWYDD.