1
Yr oracl am Tyrus: Udwch, longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd y porthladd; wrth groesi o dir Chittim fe welir hynny.
2
Wylwch, drigolion y glannau, masnachwyr Sidon, sy'n tramwyo'r mr,
3
a'th weision ar y dyfroedd mawrion; cnwd Sihor, cynhaeaf y Neil, oedd dy gyllid, a masnachwr y cenhedloedd oeddit ti.
4
Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y mr, caer y mr, a dweud, "Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor, nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion."
5
Pan ddaw'r newydd i'r Aifft, gwingant wrth glywed am Tyrus.
6
Ewch drosodd i Tarsis; udwch, drigolion y glannau.
7
Ai hon yw eich dinas brysur, sydd 'i hanes mor hen, a'i theithio wedi mynd hi i ymsefydlu mor bell?
8
Pwy a gynlluniodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, oedd 'i masnachwyr yn dywysogion a'i marchnatwyr yn fawrion y ddaear?
9
ARGLWYDD y Lluoedd a'i cynlluniodd, i ddifwyno pob gogoniant balch, i ddiraddio holl fawrion y ddaear.
10
Dos trwy dy dir, fel y gwna'r Neil, ferch Tarsis; nid oes atalfa mwyach.
11
Estynnodd yr ARGLWYDD ei law dros y mr, ysgydwodd deyrnasoedd; rhoes orchymyn ynghylch Canaan, i ddinistrio ei cheyrydd.
12
A dywedodd, "Ni chei ymffrostio ddim mwy, ti forwyn a orthrymwyd, ferch Sidon; cod, dos drosodd i Chittim, ond ni chei orffwys yno chwaith."
13
Edrych ar wlad y Caldeaid. Y rhain nid yr Asyriaid yw'r bobl a bennodd Tyrus i'r anifeiliaid gwylltion. Hwy a gododd warchae, a dryllio'i phalasau, a'i thynnu i lawr yn adfeilion.
14
Udwch, chwi longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd eich amddiffynfa.
15
Yn yr amser hwnnw fe anghofir Tyrus am ddeng mlynedd a thrigain, sef hyd einioes un brenin; ac ymhen deng mlynedd a thrigain bydd cyflwr Tyrus fel y butain yn y gn:
16
"Cymer dy delyn, rhodianna trwy'r ddinas, di butain a anghofiwyd; tyn yn dyner ar y tannau, cn dy ganeuon yn aml, fel y cofir di drachefn."
17
Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain, bydd yr ARGLWYDD yn ymweld eto Tyrus; fe hithau'n l at ei masnach a'i llogi ei hun i bob teyrnas ar y ddaear.
18
Ond bydd ei helw a'i henillion wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD; ni chronnir hwy na'u cuddio, ond bydd ei masnach yn darparu llawnder o fwyd a gwisgoedd hardd i'r rhai sy'n byw yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004