Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Neges am Tyrus: Udwch, longau masnach Tarshish! Does dim porthladd i fynd adre iddo — achos mae wedi ei ddryllio! Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus. |
| 2 |
| Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir, chi fasnachwyr Sidon. Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi; |
| 3 |
| croesi'r dyfroedd mawrion gyda had o Sihor a chynhaeaf yr Afon Nil; dyna oedd ei henillion — hi oedd marchnad y gwledydd. |
| 4 |
| Cywilydd arnat ti, Sidon! achos mae'r môr — y gaer ddiogel honno — wedi dweud, “Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenau wrth gael plant. Dw i heb fagu bechgyn ifanc na merched ifanc!” |
| 5 |
| Pan fydd yr Aifft yn clywed am y peth byddan nhw'n gwingo mewn poen wrth glywed am Tyrus. |
| 6 |
| Croeswch drosodd i Tarshish — Udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir! |
| 7 |
| Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi? — y ddinas sydd a hanes mor hen iddi? Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu? |
| 8 |
| Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus, y ddinas oedd yn gwisgo coron, a'i masnachwyr yn dywysogion ac yn bobl mor bwysig? |
| 9 |
| Yr ARGLWYDD holl-bwerus drefnodd y peth — i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch, a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd. |
| 10 |
| Hwyliwch adre bobl Tarshish, i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth yr Afon Nil; does dim harbwr i chi yma bellach. |
| 11 |
| Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môr gwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn! Yr ARGLWYDD roddodd orchymyn i ddinistrio trefi caerog Canaan. |
| 12 |
| Dwedodd, “Dyna ddigon o dy rialtwch ferch Sidon, sydd wedi ei gorthrymu.” Dos! cod, a chroesa drosodd i Cyprus, Ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith! |
| 13 |
| Edrychwch ar wlad Babilonia — y bobl sydd wedi peidio â bod! Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwylltion. Codi tyrau i warchae arni, ysbeilio ei phlastai a'i throi yn adfeilion. |
| 14 |
| Udwch, longau masnach Tarshish, achos mae eich caer ddiogel wedi ei dinistrio! |
| 15 |
| Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain: |
| 16 |
| Cymer delyn, crwydra'r ddinas, butain a anghofiwyd; Cân dy alaw unwaith eto, i wneud i bobl gofio. |
| 17 |
| Achos ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi. |
| 18 |
| Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r ARGLWYDD. Fydd e ddim yn cael ei gadw a'i storio; bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/023.mp3
66
23