Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad, i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres, i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr, i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu.
O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd: "Gogoniant i'r Un Cyfiawn." Ond fe ddywedaf fi, "Nychdod! Nychdod! Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd 'u twyll."
y sawl a ffy o drwst y dychryn a syrth i'r pwll, a'r sawl a gyfyd o ganol y pwll a ddelir yn y fagl. Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder, ac fe gryna seiliau'r ddaear;
bydd y ddaear yn gwegian yn l a blaen fel meddwyn, yn siglo fel caban gwyliwr; bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni, fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy.
Gwaradwyddir y lloer, a chywilyddia'r haul, oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoedd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.