Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i! Dw i'n dy ganmol di! Dw i'n moli dy enw! Ti wedi gwneud peth rhyfeddol — rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl; ti'n gwbl ddibynadwy! |
| 2 |
| Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig! Troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion! Gaiff y palas estron byth ei ailadeiladu! |
| 3 |
| Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di! A threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di! |
| 4 |
| Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio; yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng — yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul. Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm, |
| 5 |
| neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir, rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid. Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres, ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi. |
| 6 |
| Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i'r cenhedloedd i gyd. Gwledd o winoedd aeddfed — bwyd blasus gyda'r gwin gorau. |
| 7 |
| Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llen sy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd, a'r gorchudd sy'n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd. |
| 8 |
| Bydd marwolaeth wedi ei lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu'r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir. —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. |
| 9 |
| Bryd hynny bydd y bobl yn dweud: “Dyma'n Duw ni; yr un roedden ni'n disgwyl iddo'n hachub ni. Dyma'r ARGLWYDD roedden ni'n ei drystio; Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.” |
| 10 |
| Ydy, mae llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys ar y mynydd hwn. Bydd Moab yn cael ei sathru ganddo fel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen. |
| 11 |
| Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol, fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio. Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo hefo symudiad ei ddwylo. |
| 12 |
| Bydd y waliau diogel sy'n eu hamddiffyn yn cael eu bwrw i lawr ganddo; bydd yn eu chwalu i'r llawr — nes byddan nhw yn y llwch. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/025.mp3
66
25