Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda: Mae gynnon ni ddinas gref; achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi. |
| 2 |
| Agorwch y giatiau, i'r genedl gyfiawn ddod i mewn a gweld ei ffyddlondeb. |
| 3 |
| Mae'r rhai sy'n dy drystio di yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl. |
| 4 |
| Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser, achos wir, mae'r ARGLWYDD yn graig am byth. |
| 5 |
| Mae'n tynnu'r rhai balch i lawr. Mae'n gwneud i'r ddinas saff syrthio — syrthio i'r llawr nes bydd yn y llwch. |
| 6 |
| Mae'n cael ei sathru dan draed — traed y rhai anghenus, a sodlau y rhai tlawd. |
| 7 |
| Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn; rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn. |
| 8 |
| Dŷn ni'n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn; cofio dy enw di ydy'n hiraeth dyfnaf ni. |
| 9 |
| Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon, mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer; achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad, maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd. |
| 10 |
| Pan mae'r un sy'n gwneud drwg yn cael ei esgusodi, dydy e ddim yn dysgu beth sy'n iawn. Mae'n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest — dydy e'n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD. |
| 11 |
| ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithredu ond dŷn nhw ddim wedi sylwi. Gad iddyn nhw gywilyddio wrth weld dy sêl dros dy bobl, a'th dân yn llosgi dy elynion. |
| 12 |
| O ARGLWYDD! Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni; Ti sydd wedi cyflawni'r cwbl ar ein rhan ni! |
| 13 |
| O ARGLWYDD ein Duw, mae meistri eraill wedi bod yn ein rheoli ni, ond dim ond ti oedden ni'n ei gydnabod. |
| 14 |
| Mae'r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw; cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi. Ti wnaeth benderfynu eu tynged nhw, eu dinistrio nhw a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw. |
| 15 |
| Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, O ARGLWYDD, Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, ac ennill anrhydedd i ti dy hun. Ti wedi estyn ffiniau'r wlad. |
| 16 |
| ARGLWYDD, pan oedd hi'n argyfwng arnyn nhw dyma nhw'n dy geisio di. Roeddet ti wedi eu ceryddu nhw am yr holl sibrwd swynion. |
| 17 |
| Roedden ni o dy flaen di, O ARGLWYDD, fel gwraig ar fin cael plentyn, yn gwingo ac yn sgrechian mewn poen. |
| 18 |
| Ond os oedden ni'n feichiog, os oedden ni'n gwingo, doedden ni'n geni dim byd ond gwynt. Gafodd y wlad mo'i hachub; a doedd dim plant wedi eu geni i fyw yn y tir. |
| 19 |
| Ond bydd dy feirw di yn dod yn fyw! Bydd cyrff marw yn codi eto! Deffrwch a chanwch yn llawen, chi sy'n byw yn y pridd! Bydd dy olau fel gwlith y bore yn rhoi bywyd i dir y meirwon. |
| 20 |
| Ewch, fy mhobl! Ewch i'ch ystafelloedd, a chloi'r drysau ar eich hôl. Cuddiwch am funud fach, nes i'w lid basio heibio. |
| 21 |
| Achos mae'r ARGLWYDD yn dod allan i gosbi pobl y ddaear am eu drygioni. Bydd y tir yn dangos y trais fu arno, a ddim yn cuddio'r rhai gafodd eu lladd byth mwy. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/026.mp3
66
26