Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD 'i gleddyf creulon, mawr a nerthol yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y mr.
Am hynny, fel hyn y mae glanhau drygioni Jacob, a hyn fydd yn symud ymaith ei gamwedd gwneud holl feini'r allor fel cerrig calch wedi eu malu, heb bost nac allor yn sefyll.
Oherwydd y mae'r ddinas gadarn yn unig, yn fangre wedi ei gadael a'i gwrthod, fel diffeithdir, lle y mae'r llo yn pori a gorwedd, ac yn cnoi pob blaguryn sy'n tyfu.
Pan wywa'i changau, fe'u torrir, a daw'r gwragedd a chynnau tn hwy. Am mai pobl heb ddeall ydynt, ni fydd eu Gwneuthurwr yn dangos dim trugaredd, na'u Creawdwr yn gwneud dim ffafr hwy.
Yn y dydd hwnnw fe genir ag utgorn mawr; ac fe ddaw'r rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd ar chwl yn yr Aifft, ac addoli'r ARGLWYDD yn y mynydd sanctaidd, yn Jerwsalem.