Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog, gyda'i gleddyf llym, mawr a didostur — Lefiathan, y neidr droellog; a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr.
Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob, a dyma fydd canlyniad symud ei bechod: Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd fel petaen nhw'n garreg galch — a polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth wedi eu torri i gyd.
Mae'r ddinas gaerog wedi ei gadael yn wag; cartrefi gwag wedi eu gadael fel tir diffaith. Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawr ac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.
Yna mae'r brigau'n sychu, ac yn torri; ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw. Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw; felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd, doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.
Bryd hynny, bydd y corn hwrdd yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli'r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig, yn Jerwsalem.