Fe'th ddarostyngir, a byddi'n llefaru o'r pridd, ac yn sisial dy eiriau o'r llwch; daw dy lais fel llais ysbryd o'r pridd, daw sibrwd dy eiriau o'r llwch.
Bydd holl dyrfa'r cenhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Ariel, yn erbyn ei holl amddiffynfa a'i chadernid, ac yn ei gormesu, fel breuddwyd, fel gweledigaeth nos
fel y bydd y newynog yn breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yn deffro a'i gael ei hun yn wag, fel y bydd y sychedig yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yn deffro a'i gael ei hun yn wan a sychedig. Felly y bydd gyda thyrfa'r holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, "Darllen hwn i mi", fe etyb, "Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio."
Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, "Oherwydd bod y bobl hyn yn nesu ataf a thalu gwrogaeth i mi geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,
Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfn i gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD; am fod eu gwaith yn y tywyllwch, dywedant, "Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?"
Troi popeth o chwith yr ydych. A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai? A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr, "Nid ef a'm gwnaeth"? A ddywed y llestr am ei luniwr, "Nid yw'n deall"?