Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd; bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch. Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd, bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.
A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbyn yn cael eu malu fel llwch mân. Bydd y dyrfa o ormeswyr fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd. Yn sydyn, mewn chwinciad,
Bydd fel rhywun sy'n llwgu yn breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag; neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp. Felly bydd hi ar yr holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd. Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi, Ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.
Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi ei selio. Mae'n cael ei roi i rywun sy'n gallu darllen, a gofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi ei selio”.
Dyma ddwedodd y Meistr: Mae'r bobl yma'n dod ata i ac yn dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i. Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond traddodiad dynol wedi ei ddysgu iddyn nhw.
Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl yma dro ar ôl tro gyda un rhyfeddod ar ôl y llall. Ond bydd doethineb y deallus yn darfod, a chrebwyll pobl glyfar wedi ei guddio.
Gwae'r rhai sy'n ceisio cuddio eu cynlluniau oddi wrth yr ARGLWYDD! Y rhai sy'n gweithio yn y tywyllwch, ac yn dweud, “Pwy sy'n ein gweld ni?” “Pwy sy'n gwybod amdanon ni?”
Dych chi mor droëdig! Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai? Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth, “Wnaeth e mohono i!” Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un â'i siapiodd, “Dydy e'n deall dim!”
Y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr, ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas, a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawn gyda dadl wag.
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob — y Duw brynodd ryddid i Abraham: Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto! Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!
Achos pan fyddan nhw'n gweld eu plant a beth fydda i wedi ei wneud yn eu plith, byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i. Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd Jacob Ac yn dangos parch go iawn at Dduw Israel.