Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud, “Alla i ddim gwella'ch briwiau chi, does gen i ddim bwyd yn y tŷ a does gen i ddim côt chwaith. Peidiwch gwneud fi yn feistr arnoch chi!”
Mae eu ffafriaeth wrth farnu yn tystio yn eu herbyn; maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom, heb geisio cuddio dim! Gwae nhw! Maen nhw wedi dod â dinistr arnyn nhw eu hunain.
Mae'r ARGLWYDD yn dod â'r cyhuddiad yma yn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl: “Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan! Mae'r hyn sydd wedi ei ddwyn oddi ar y tlawd yn eich tai chi.
Yna dwedodd yr ARGLWYDD: “Mae merched Seion mor falch, yn dal eu pennau i fyny, yn fflyrtian â'u llygaid ac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog, a'u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd”
Wedyn — yn lle persawr bydd pydredd; yn lle'r rhwymyn bydd rhaff; yn lle steil gwallt bydd moelni; yn lle mantell wedi ei brodio bydd sachliain. Ie, cywilydd yn lle harddwch.