Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio, ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo; pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir, pan beidi thwyllo, fe'th dwyllir di.
Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni, a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn: "Pwy ohonom a all fyw gyda thn ysol, a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?"
Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elw trawster, sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr, sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio, sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.
Edrych ar Seion, dinas ein huchelwyliau; bydded dy lygaid yn gweld Jerwsalem, bro diddanwch, pabell na symudir; ni thynnir un o'i phegiau byth, ac ni thorrir un o'i rhaffau.
Yno, yn wir, y mae gennym yr ARGLWYDD yn ei fawredd, a mangre afonydd a ffrydiau llydain; ni fydd llong rwyfau'n tramwy yno, na llong fawr yn hwylio heibio.
Y mae dy raffau'n llac, heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le, ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu. Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr, a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth.