Bydd y sêr i gyd yn diffodd, a'r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl. Bydd y sêr i gyd yn syrthio fel dail yn disgyn o'r winwydden, neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys.
Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed, a'i fodloni gyda brasder anifeiliaid — gwaed ŵyn a bychod geifr, a'r brasder ar arennau hyrddod. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra, a lladdfa yn Edom.
a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos; bydd mwg yn codi ohono am byth. Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau; fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd.
Bydd tylluanod a draenogod yn ei feddiannu; y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno. Bydd Duw yn ei fesur i achosi anhrefn ac yn ei bwyso i'w wagio.
Astudiwch a darllenwch sgroliau'r ARGLWYDD, heb adael dim allan, a heb fethu llinell. Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl, a'i ysbryd e sydd wedi eu casglu at ei gilydd.
Fe sydd wedi rhoi eu siâr i bob un ac wedi rhannu'r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur. Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth — byddan nhw'n byw yno ar hyd yr oesoedd.