Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Llawenyched yr anial a'r sychdir, gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo. |
| 2 |
| Blodeued fel maes o saffrwn, a gorfoleddu llawenydd a chn. Rhodder gogoniant Lebanon iddo, mawrhydi Carmel a Saron; cnt weld gogoniant yr ARGLWYDD, a mawrhydi ein Duw ni. |
| 3 |
| Cadarnhewch y dwylo llesg, cryfhewch y gliniau gwan; |
| 4 |
| dywedwch wrth y pryderus, "Ymgryfhewch, nac ofnwch. wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn. |
| 5 |
| Yna fe agorir llygaid y deillion a chlustiau'r byddariaid; |
| 6 |
| fe lama'r cloff fel hydd, fe gn tafod y mudan; tyr dyfroedd allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch; |
| 7 |
| bydd y crastir yn llyn, a'r tir sych yn ffynhonnau byw; yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal, bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn. |
| 8 |
| Yno bydd priffordd a ffordd, a gelwir hi yn ffordd sanctaidd; ni bydd yr halogedig yn mynd ar hydddi; bydd yn ffordd i'r pererin, ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi. |
| 9 |
| Ni ddaw llew yno, ni ddring bwystfil rheibus iddi ni cheir y rheini yno. Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni, |
| 10 |
| a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd. Dnt i Seion dan ganu, bob un gyda llawenydd tragwyddol; hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/isaiah/035.mp3
66
35