×

Beibl Cymraeg 2023

Eseia 35

1
Bydd yr anialwch a'r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo — yn blodeuo'n sydyn fel saffrwn.
2
Bydd yn dathlu'n llawen ac yn gweiddi; bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi, a harddwch Carmel a Saron. Byddan nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD, a harddwch ein Duw ni.
3
Cryfhewch y dwylo llesg; a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn!
4
Dwedwch wrth y rhai ofnus, “Byddwch yn ddewr! Peidiwch bod ag ofn! Edrychwch ar ein Duw! Mae e'n dod i ddial! Y tâl dwyfol! Mae e ei hun yn dod i'ch achub chi!”
5
Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor, a chlustiau pobl fyddar hefyd.
6
Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a'r mud yn gweiddi'n llawen! Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.
7
Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio. Bydd y fan ble roedd siacaliaid yn gorweddian yn troi'n gorsydd o frwyn.
8
Bydd priffordd; ie, ffordd yno sy'n cael ei galw, ‛Y Ffordd Sanctaidd‛. Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni — mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd. Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.
9
Fydd dim llew yno, a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati — fydd dim i'w cael yno. Ond bydd y rhai sydd wedi eu rhyddhau yn cerdded ar ei hyd.
10
Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy'n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau