i ddweud wrtho, "Fel hyn y dywed Heseceia: 'Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor arnynt.
O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, a hefyd yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Dos i weddi dros y gweddill sydd ar l.'"
dywedodd Eseia wrthynt, "Dywedwch wrth eich meistr, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.
"Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, 'Paid chymryd dy dwyllo gan dy Dduw, yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.
"O ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; tydi a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.
dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn ef: 'Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu, yn chwerthin am dy ben; y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy l.
Trwy dy weision fe geblaist yr ARGLWYDD, a dweud, "Gyda lliaws fy ngherbydau dringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd, i bellterau Lebanon; torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd; euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog;
"'Oni chlywaist i mi wneud hyn erstalwm, ac i mi lunio hyn yn y dyddiau gynt? Bellach 'rwy'n ei ddwyn i ben; bydd dinasoedd caerog yn syrthio yn garneddau wedi eu dinistrio;
bydd y trigolion, a'u nerth yn pallu, yn ddigalon ac mewn gwarth, fel gwellt y maes, llysiau gwyrdd a glaswellt pen to wedi eu deifio gan wynt y dwyrain.
Oherwydd dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn, a bod su373?n dy draha yn fy nghlustiau, fe osodaf fy mach yn dy ffroen a'm ffrwyn yn dy weflau, a'th yrru'n l ar hyd y ffordd y daethost.'
"Bydd hyn yn arwydd i ti, Heseceia. Eleni bwyteir yr hyn sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ac yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd hefyd a bwyta'u ffrwyth.
"Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria: 'Ni ddaw ef i mewn i'r ddinas hon, nac anfon saeth i mewn iddi; nid ymosoda arni tharian, na chodi clawdd yn ei herbyn.
Yna aeth angel yr ARGLWYDD i wersyll yr Asyriaid a tharo i lawr gant wyth deg a phump o filoedd; pan ddaeth y bore, cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.
Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd 'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.