A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain.
A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dyma mae Heseceia'n ddweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw.
Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’”
dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di.
Dw i'n mynd i godi ofn arno fe. Bydd e'n clywed si am rywbeth ac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun. Bydda i'n gwneud iddo gael ei ladd gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”
“Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.
“O ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear.
O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!
Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria,
dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn: “Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di! Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di! Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phen tu ôl i dy gefn di.
Ti wedi defnyddio dy weision i enllibio'r Meistr, a dweud, ‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus. Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau, er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog.
Mae'n rhaid dy fod wedi clywed! Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm — mae'r cwbl wedi ei gynllunio ers amser maith, a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith: i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel.
Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth, maen nhw'n ddigalon, ac wedi eu cywilyddio. Maen nhw fel planhigion mewn cae, neu dyfiant ar ben to wedi ei grino gan wynt y dwyrain.
Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i, a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug, dw i'n mynd i roi bachyn trwy dy drwyn di a ffrwyn yn dy geg di; a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost ti.”
A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir: Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni, a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw. Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi, plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw.
Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem; y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.’
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria: ‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma. Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi; fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian, nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.
Pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma ei feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le.