Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trefna dy du375?, oherwydd 'Rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.'"
a dweud, "O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di chywirdeb a chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg." Ac fe wylodd Heseceia'n chwerw.
"Dos, dywed wrth Heseceia, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr 'rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.
Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei l ddeg o risiau.'" Ac aeth yr haul yn ei l ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.
Dygwyd fy nhrigfan oddi arnaf a'i symud i ffwrdd fel pabell bugail; fel gwehydd 'rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben, i'w torri ymaith o'r gwu375?dd. O fore hyd nos 'Rwyt yn fy narostwng.
'Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith, 'rwy'n cwynfan fel colomen. Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny; O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof."