Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.” |
| 2 |
| Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo, |
| 3 |
| “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo. |
| 4 |
| Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Eseia: |
| 5 |
| “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. |
| 6 |
| Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma.” |
| 7 |
| “‘A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi ei addo: |
| 8 |
| Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw. |
| 9 |
| Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch: |
| 10 |
| “Dywedais, ‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed. Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwn am weddill fy nyddiau.’ |
| 11 |
| Dywedais: ‘Ga i byth weld yr ARGLWYDD yn y bywyd hwn eto; nac edrych ar y ddynoliaeth fel y rhai sydd wedi peidio â bod.’ |
| 12 |
| Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna i a'i symud fel pabell bugail. Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliain wedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i. |
| 13 |
| Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i. |
| 14 |
| Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur, ac yn cŵan fel colomen, wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny. ‘Fy ARGLWYDD! Dw i'n cael fy llethu! Achub fi!’ |
| 15 |
| Beth alla i ei ddweud? Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud, a dyna wnaeth e! Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalus am fod fy enaid mor chwerw. |
| 16 |
| Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio, ac mae bywyd yn fy nghalon eto. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gorffwys i mi. ‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’ |
| 17 |
| Yn wir, roedd yr holl chwerwder yma yn lles i mi: ‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant, a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti. |
| 18 |
| Dydy'r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti, a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di. Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwll ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di. |
| 19 |
| Y rhai byw, dim ond y rhai byw sy'n gallu diolch i ti fel dw i'n gwneud heddiw. Mae tad yn dweud wrth ei blant am dy ffyddlondeb di: |
| 20 |
| Mae'r ARGLWYDD wedi'n hachub ni! Gadewch i ni ganu offerynnau cerdd yn nheml yr ARGLWYDD weddill ein bywydau!’” |
| 21 |
| Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.” |
| 22 |
| Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr ARGLWYDD eto?” |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/038.mp3
66
38