Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yn y dydd hwnnw, bydd saith o fenywod yn ymaflyd mewn un gu373?r, a dweud, "Bwytawn ein bara ein hunain, a gwisgo ein dillad ein hunain; yn unig galwer ni wrth dy enw di, a symud ymaith ein gwaradwydd." |
| 2 |
| Yn y dydd hwnnw, bydd blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a bydd ffrwyth y tir yn falchder ac yn brydferthwch i'r rhai dihangol yn Israel. |
| 3 |
| Yna gelwir yn sanctaidd bob un sydd ar l yn Seion ac wedi ei adael yn Jerwsalem, pob un y cofnodir ei fod yn fyw yn Jerwsalem. |
| 4 |
| Pan fydd yr ARGLWYDD wedi golchi ymaith fudreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o'i chanol trwy ysbryd barn ac ysbryd tanllyd, |
| 5 |
| yna fe grea'r ARGLWYDD gwmwl yn y dydd, a llewyrch tn fflamllyd yn y nos, uwchben pob adeilad ar Fynydd Seion a phob man ymgynnull. Canys bydd y gogoniant yn ortho dros bopeth, |
| 6 |
| ac yn bafiliwn i gysgodi yn y dydd rhag gwres, ac yn noddfa a lloches rhag tymestl a glaw. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/isaiah/004.mp3
66
4