Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Bryd hynny, bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn, ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di — Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain, a gwisgo'n dillad ein hunain. Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!” |
| 2 |
| Bryd hynny, bydd blaguryn yr ARGLWYDD yn rhoi harddwch ac ysblander, a bydd ffrwyth y tir yn cynnig urddas a mawredd, i'r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel. |
| 3 |
| Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion, ac wedi eu gadael yn Jerwsalem yn cael eu galw'n sanctaidd — pawb sydd wedi eu cofnodi i fyw yn Jerwsalem. |
| 4 |
| Pan fydd yr ARGLWYDD wedi glanhau budreddi merched Seion, bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem — trwy farnu a charthu. |
| 5 |
| Bydd yr ARGLWYDD yn dod â chwmwl yn y dydd a thân yn llosgi yn y nos, a'i osod uwchben y cysegr a'r man cyfarfod ar Fynydd Seion. Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth. |
| 6 |
| Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd, ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/004.mp3
66
4