Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma fy ngwas, yr un dw i'n ei gynnal; yr un dw i wedi ei ddewis, ac sydd wrth fy modd i! Rhof fy ysbryd iddo, a bydd yn dysgu cyfiawnder i'r cenhedloedd. |
| 2 |
| Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais, nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd. |
| 3 |
| Fydd e ddim yn torri brwynen fregus, nac yn diffodd llin sy'n mygu. Bydd e'n dangos y ffordd iawn i ni. |
| 4 |
| Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio nes iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear. Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.” |
| 5 |
| Dyma mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud — yr un greodd yr awyr, a'i lledu allan; yr un wnaeth siapio'r ddaear a phopeth ynddi; yr un sy'n rhoi anadl i'r bobl sy'n byw arni, a bywyd i'r rhai sy'n cerdded arni: |
| 6 |
| “Fi ydy'r ARGLWYDD, dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn, a gafael yn dy law. Dw i'n gofalu amdanat ti, ac yn dy benodi yn ganolwr fy ymrwymiad i bobl, ac yn olau i genhedloedd — |
| 7 |
| i agor llygaid y dall, rhyddhau carcharorion o'u celloedd, a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar. |
| 8 |
| Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i. Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall, na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau. |
| 9 |
| Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir, a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd. Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhw cyn iddyn nhw ddechrau digwydd.” |
| 10 |
| Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, canwch ei glod o ben draw'r byd — chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo, a chi sy'n byw ar yr ynysoedd! |
| 11 |
| Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau, a'r pentrefi ble mae crwydriaid Cedar yn byw. Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela, a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd. |
| 12 |
| Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD, a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd. |
| 13 |
| Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel. Mae e'n gweiddi — yn wir, mae e'n rhuo wrth ymosod ar ei elynion. |
| 14 |
| “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir; wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl. Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn, dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan. |
| 15 |
| Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd, a gwneud i bob tyfiant wywo. Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych, a sychu'r pyllau dŵr hefyd. |
| 16 |
| Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddall ar hyd ffordd sy'n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw. Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i'n addo ei wneud — a dw i'n cadw fy ngair. |
| 17 |
| Bydd y rhai sy'n trystio eilunod yn cael eu gyrru'n ôl a'u cywilyddio, sef y rhai sy'n dweud wrth ddelwau metel, ‘Chi ydy'n duwiau ni!’” |
| 18 |
| Gwrandwch, chi'r rhai byddar; ac edrychwch, chi sy'n ddall! |
| 19 |
| Pwy sy'n ddall fel fy ngwas, neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon? Pwy sy'n ddall fel yr un wedi ymrwymo iddo? Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD? |
| 20 |
| Er dy fod yn gweld llawer, dwyt ti ddim yn ystyried; er bod gen ti glustiau, dwyt ti ddim yn gwrando. |
| 21 |
| Roedd yr ARGLWYDD wedi ei blesio ei fod yn gyfiawn, a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw. |
| 22 |
| Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth: maen nhw i gyd wedi eu dal mewn tyllau, a'u carcharu mewn celloedd. Maen nhw'n ysglyfaeth, a does neb i'w hachub; maen nhw'n ysbail, a does neb yn dweud “Rho nhw'n ôl!” |
| 23 |
| Pwy sy'n barod i wrando ar hyn? Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen! |
| 24 |
| Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio, a rhoi Israel i'r lladron? Yr ARGLWYDD wrth gwrs — yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn! Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau, na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth. |
| 25 |
| Felly dyma fe'n tywallt ei lid arnyn nhw, a thrais rhyfel. Roedd y fflamau o'u cwmpas ym mhobman, ond wnaethon nhw ddim dysgu'r wers. Cawson nhw eu llosgi, ond gymron nhw ddim sylw. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/042.mp3
66
42