×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseia 43

1
Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel: "Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.
2
Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tn, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
3
Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel, yw dy waredydd; rhof yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
4
Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, yn ogoneddus, a minnau'n dy garu, rhof eraill yn gyfnewid amdanat, a phobloedd am dy einioes.
5
Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi. Dygaf dy had o'r dwyrain, casglaf di o'r gorllewin;
6
gorchmynnaf i'r gogledd, 'Rho', ac i'r de, 'Paid dal yn l; tyrd 'm meibion o bell, a'm merched o eithafoedd byd
7
pob un sydd 'm henw arno, ac a greais i'm gogoniant, ac a luniais, ac a wneuthum.'"
8
Dygwch allan y bobl sy'n ddall, er bod llygaid ganddynt, y rhai sy'n fyddar, er bod clustiau ganddynt.
9
Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd, a'r bobloedd wedi eu cynnull. Pwy yn eu plith a fynega hyn, a chyhoeddi i ni y pethau gynt? Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos, a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.
10
"Chwi yw fy nhystion," medd yr ARGLWYDD, "fy ngwas, a etholais er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof, a deall mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy l.
11
Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD; nid oes waredydd ond myfi.
12
Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi, pan nad oedd duw dieithr yn eich plith; ac yr ydych chwi'n dystion i mi," medd yr ARGLWYDD, "mai myfi yw Duw.
13
o'r dydd hwn, myfi yw Duw; ni all neb waredu o'm llaw. Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud."
14
Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd, Sanct Israel: "Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon, ac yn dryllio'r barrau i gyd, a throi cn y Caldeaid yn wylofain.
15
Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct; creawdwr Israel yw eich brenin."
16
Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, a agorodd ffordd yn y mr a llwybr yn y dyfroedd enbyd;
17
a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin:
18
"Peidiwch meddwl am y pethau gynt, peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
19
Edrychwch, 'rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, 'rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.
20
Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi du373?r yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi du373?r i'm pobl, f'etholedig,
21
sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod.
22
"Jacob, ni elwaist arnaf fi, ond blinaist arnaf, Israel.
23
Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm, na'm hanrhydeddu 'th ebyrth; ni roddais faich bwydoffrwm arnat, na'th flino am arogldarth.
24
Ni phrynaist i mi galamus ag arian, na'm llenwi 'th ebyrth breision; ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf, blinaist fi 'th gamweddau.
25
"Myfi, myfi yw Duw, sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy bechodau.
26
Cyhudda fi, dadleuwn 'n gilydd; gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.
27
Pechodd dy dad cyntaf, a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,
28
a halogodd dy dywysogion fy nghysegr; felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio, ac Israel yn waradwydd."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau