Dywed un, ''Rwyf fi'n perthyn i'r ARGLWYDD'; bydd un arall yn cymryd enw Jacob, ac un arall drachefn yn ei arwyddo'i hun, 'Eiddo'r ARGLWYDD', ac yn ei gyfenwi ei hun, 'Israel'."
Pwy sy'n debyg i mi? Bydded iddo ddatgan, a mynegi a gosod ei achos ger fy mron. Pwy a gyhoeddodd erstalwm y pethau sydd i ddod? Dyweded wrthym beth sydd i ddigwydd.
Y mae pawb sy'n gwneud eilunod yn ddiddim, ac nid oes lles yng ngwrthrych eu serch; y mae eu tystion heb weld a heb wybod, ac o'r herwydd fe'u cywilyddir.
Gwelwch, cywilyddir pawb sy'n gweithio arno, ac nid yw'r crefftwyr yn ddim ond pobl. Pan gasglant ynghyd a dod at ei gilydd, daw ofn a chywilydd arnynt i gyd.
Y mae'r gof yn hogi cu375?n ac yn gweithio'r haearn yn y tn; y mae'n ei ffurfio morthwylion, ac yn gweithio arno nerth ei fraich. Yna bydd arno angen bwyd, a'i nerth yn pallu, ac eisiau diod arno, ac yntau'n diffygio.
Y mae'r saer coed yn estyn llinyn, ac yn marcio phensil; yna y mae'n llyfnhau'r pren 'r plaen, ac yn ei fesur chwmpas, ac yn ei gerfio ar ffurf meidrolyn, mor lluniaidd ffurf ddynol i fyw mewn tu375?.
Y mae rhywun yn torri iddo'i hun gedrwydden, neu'n dewis cypreswydden neu dderwen wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig cedrwydden wedi ei phlannu, a'r glaw wedi ei chryfhau.
Bydd peth ohoni'n danwydd i rywun i ymdwymo wrtho; bydd hefyd yn cynnau tn i grasu bara; a hefyd yn gwneud duw i'w addoli; fe'i gwna'n ddelw gerfiedig ac ymgrymu iddi.
Ie, y mae'n llosgi'r hanner yn dn, ac yn rhostio cig arno, ac yn bwyta'i wala; y mae hefyd yn ymdwymo a dweud, "Y mae blas ar dn; peth braf yw gweld y fflam."
Nid yw neb wedi troi'r peth yn ei feddwl, nac yn gwybod nac yn deall, i ddweud, "Llosgais hanner yn dn, a chrasu bara yn y marwor; rhostiais gig a'i fwyta; ac o'r gweddill 'rwy'n gwneud ffieiddbeth, ac yn ymgrymu i ddarn o bren."
Yn wir y mae'n ymborthi ar ludw, a'i feddwl crwydredig wedi ei yrru ar gyfeiliorn; ni all ei waredu ei hun a dweud, "Onid twyll yw'r hyn sydd yn fy llaw?"
Canwch, nefoedd, oherwydd yr ARGLWYDD a wnaeth hyn; gwaeddwch, ddyfnderoedd daear; bloeddiwch, O fynyddoedd, a'r goedwig a phob coeden o'i mewn; y mae'r ARGLWYDD wedi gwaredu Jacob, a chael gogoniant yn Israel.
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth: "Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan estyn y nefoedd fy hunan, a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;
cadarnhau gair ei was, a chyflawni cyngor ei genhadon; dweud wrth Jerwsalem, 'Fe'th breswylir', ac wrth ddinasoedd Jwda, 'Fe'ch adeiledir cyfodaf drachefn eich adfeilion';