Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Crymodd Bel, plygodd Nebo; ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau, ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig, yn faich ar anifeiliaid blinedig. |
| 2 |
| Plygant a chrymant gyda'i gilydd, ni allant arbed y llwyth, ond nt eu hunain i gaethglud. |
| 3 |
| "Gwrandewch arnaf fi, du375? Jacob, a phawb sy'n weddill o du375? Israel; buoch yn faich i mi o'r groth, ac yn llwyth i mi o'r bru; |
| 4 |
| hyd eich henaint, myfi yw Duw, hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf. Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo, myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed. |
| 5 |
| I bwy y'm cyffelybwch? phwy y gwnewch fi'n gyfartal? I bwy y'm cymharwch? Pwy sy'n debyg i mi? |
| 6 |
| Y mae'r rhai sy'n gwastraffu aur o'r pwrs, ac yn arllwys eu harian i glorian, yn llogi eurych ac yn gwneud duw i'w addoli ac ymgrymu iddo. |
| 7 |
| Codant ef ar eu hysgwydd a'i gario, gosodant ef yn ei le, ac yno y saif heb symud; os llefa neb arno, nid yw'n ei ateb, nac yn ei achub o'i gyfyngder. |
| 8 |
| "Cofiwch hyn, ac ystyriwch; galwch i gof, chwi wrthryfelwyr. |
| 9 |
| Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn l; oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall, yn Dduw heb neb yn debyg i mi. |
| 10 |
| 'Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd, ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud. Dywedaf, 'Fe saif fy nghyngor, a chyflawnaf fy holl fwriad.' |
| 11 |
| Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain, a gu373?r a wna fy nghyngor o wlad bell. Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben, fe'i lluniais ac fe'i gwnaf. |
| 12 |
| Gwrandewch arnaf fi, chwi bobl ystyfnig, chwi sy'n bell oddi wrth gyfiawnder. |
| 13 |
| Paraf i'm cyfiawnder nesu; nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth. Rhof iachawdwriaeth yn Seion, a'm gogoniant i Israel. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/isaiah/046.mp3
66
46