Mae Bel ar ei liniau, a Nabw yn gorwedd ar ei wyneb. Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw; pethau mae'n rhaid eu cario — llwyth trwm ar gefn anifeiliaid blinedig!
“Gwrandwch arna i, bobl Jacob, a phawb sydd ar ôl o bobl Israel. Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth, a dw i wedi eich cynnal chi ers i chi gael eich geni.
A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen; bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn! Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi — fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub.
Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrs ac yn pwyso eu harian mewn clorian, yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw, ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen!
Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau, ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed, a dydy e ddim yn gallu symud! Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb; a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i trafferthion!
Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; Dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’
Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain; yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i. Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd; fi sydd wedi ei gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud!
Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn; dydy hyn ddim yn y dyfodol pell — fydd achubiaeth ddim yn cael ei ohirio. Dw i'n mynd i achub Seion! A rhoi fy ysblander i Israel!”