Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| “I lawr â ti! Eistedd yn y llwch, o wyryf, ferch Babilon. Eistedd ar lawr ferch y Babiloniaid, mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod. Gei di ddim dy alw yn dyner ac yn dlos byth eto. |
| 2 |
| Gafael yn y felin law i falu blawd. Tynn dy fêl, rhwyga dy wisg, a dangos dy goesau wrth gerdded drwy afonydd. |
| 3 |
| Byddi'n gwbl noeth, a bydd dy rannau preifat yn y golwg. Dw i'n mynd i ddial, a fydd neb yn fy rhwysto i.” |
| 4 |
| Dyna mae'r un sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn ei ddweud —yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw— Un Sanctaidd Israel. |
| 5 |
| “Eistedd yn dawel! Dos i'r tywyllwch, ferch y Babiloniaid. Gei di ddim dy alw yn ‛Feistres y Teyrnasoedd‛ byth eto. |
| 6 |
| Roeddwn wedi digio gyda'm pobl, felly cosbais fy etifeddiaeth; rhoddais nhw yn dy ddwylo di, ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw. Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drin pobl mewn oed. |
| 7 |
| ‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti. Wnest ti ddim meddwl am funud beth fyddai'n digwydd yn y diwedd. |
| 8 |
| Felly, gwrando ar hyn, ti sy wedi dy sbwylio — ti sy'n ofni neb na dim, ac yn meddwl, ‘Fi ydy'r un! — Does neb tebyg i mi! Fydda i byth yn weddw, nac yn gwybod beth ydy colli plant.’ |
| 9 |
| Ond yn sydyn bydd y ddau beth yn digwydd ar yr un diwrnod: colli dy blant a chael dy hun yn weddw. Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw, er gwaetha dy holl ddewino a'th swynion gorau. |
| 10 |
| Roeddet ti mor hunanfodlon yn dy ddrygioni, ac yn meddwl, ‘Does neb yn fy ngweld i.’ Roedd dy ddoethineb a dy glyfrwch yn dy arwain ar gyfeiliorn, ac roeddet ti'n dweud wrthot ti dy hun, ‘Fi ydy'r un! — Does neb tebyg i mi!’ |
| 11 |
| Ond mae dinistr yn dod, a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw. Mae trychineb ar fin disgyn, a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnat heb yn wybod. |
| 12 |
| Dal ati gyda dy swynion a'th ddewino — rwyt wedi bod yn ymarfer ers yn blentyn! Falle y cei di help! Falle y byddi'n dychryn y gelyn! |
| 13 |
| Ti'n gwastraffu dy amser yn gwrando ar holl gynghorion y rhai sy'n syllu i'r awyr ac yn darllen y sêr, ac yn dweud o fis i fis beth sy'n mynd i ddigwydd i ti! Gad iddyn nhw sefyll i fyny a dy achub di! |
| 14 |
| Maen nhw fel gwellt yn cael ei losgi'n y tân. Allan nhw ddim achub eu hunain rhag gwres y fflamau cryfion. Nid glo i dwymo wrtho ydy hwn, neu dân i eistedd o'i flaen! |
| 15 |
| Dyna faint o help ydyn nhw i ti! — y rhai buost ti'n delio gyda nhw ers yn blentyn. Maen nhw i gyd wedi mynd eu ffordd eu hunain, a does neb ar ôl i dy achub di!” |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/047.mp3
66
47