"Gwrandewch hyn, du375? Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, sy'n tarddu o had Jwda, sy'n tyngu yn enw'r ARGLWYDD ac yn galw ar Dduw Israel, heb fod yn onest na didwyll.
Nid oeddit wedi clywed na gwybod; erstalwm 'roedd dy glust heb agor; oherwydd gwyddwn dy fod yn dwyllodrus i'r eithaf, ac iti o'r bru gael yr enw o fod yn droseddwr.
"Dewch bawb at eich gilydd a gwrando; pwy ohonynt a fynegodd hyn? Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffi fydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had y Caldeaid.
Dewch ataf, clywch hyn: o'r dechrau ni leferais yn ddirgel; o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno." Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUW a'm hanfonodd i.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd, Sanct Israel: "Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, sy'n dy ddysgu er dy les, ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded.
Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid; mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd, cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear; dywedwch, "Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob."