fe'i cloddiodd, a'i digaregu; fe'i plannodd 'r gwinwydd gorau; cododd du373?r yn ei chanol, a naddu gwinwryf ynddi. Disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, ond fe ddygodd rawn drwg.
Yn wir, gwinllan ARGLWYDD y Lluoedd yw tu375? Israel, a phobl Jwda yw ei blanhigyn dethol; disgwyliodd gael barn, ond cafodd drais; yn lle cyfiawnder fe gafodd gri.
Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg, sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch, sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.
Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dn ac y diflanna'r mn us yn y fflam, felly y pydra eu gwreiddyn ac y diflanna eu blagur fel llwch; am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd, a dirmygu gair Sanct Israel.
Am hynny enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, ac estynnodd ei law yn eu herbyn, a'u taro; fe grynodd y mynyddoedd, a gorweddai'r celanedd fel ysgarthion ar y strydoedd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.