×

Beibl Cymraeg 2023

Eseia 55

1
“Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr! Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag! Prynwch a bwytwch. Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian — mae am ddim!
2
Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd, a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni? Gwrandwch yn ofalus arna i! Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.
3
Gwrandwch arna i, a dewch yma. Os gwnewch chi wrando, cewch fyw! Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chi fydd yn para am byth — fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd.
4
Gwnes i e yn dyst i bobloedd, yn arweinydd yn rheoli gwledydd.”
5
Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod, a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di yn rhedeg atat ti — o achos yr ARGLWYDD dy Dduw, Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.
6
Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael! Galwch arno tra mae'n agos!
7
Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau — troi'n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.
8
Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â'ch bwriadau chi, a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â'ch ffyrdd chi —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
9
Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear, mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi, a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi.
10
Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta,
11
felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith — mae'n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.
12
Ie, byddwch chi'n mynd allan yn llawen ac yn cael eich arwain mewn heddwch. Bydd y mynyddoedd a'r bryniau yn bloeddio canu o'ch blaen, a'r coed i gyd yn curo dwylo.
13
Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain, a llwyni myrtwydd yn lle mieri. Byddan nhw'n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD, fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau