Y maent yn fy ngheisio'n feunyddiol, ac yn deisyfu gwybod fy ffordd; ac fel cenedl sy'n gweithredu cyfiawnder, heb droi cefn ar farn eu Duw, dnt i ofyn barn gyfiawn gennyf, ac y maent yn deisyfu nesu at Dduw.
"'Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych? Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?' meddant. Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych, a gyrru ar eich gweision yn galetach.
Ai dyma'r math o ympryd a ddewisais diwrnod i rywun ei gystuddio'i hun? A yw i grymu ei ben fel brwynen, a gwneud ei wely mewn sachliain a lludw? Ai hyn a elwi yn ympryd, yn ddiwrnod i ryngu bodd i'r ARGLWYDD?
Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr, a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan; bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen, a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.
Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych, ac yn cryfhau dy esgyrn; yna byddi fel gardd ddyfradwy, ac fel ffynnon ddu373?r a'i dyfroedd heb ballu.
"Os peidi sathru'r Saboth dan draed, a pheidio cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd, ond galw'r Saboth yn hyfrydwch, a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus; os anrhydeddi ef, trwy beidio theithio, na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun;
yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD. Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear, a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob." Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.