Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| “Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl; Cod dy lais fel sain corn hwrdd! Dywed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela, ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu. |
| 2 |
| Maen nhw'n troi ata i bob dydd, ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd. Maen nhw'n ôl pob golwg yn genedl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw. Maen nhw'n gofyn i mi am y ffordd iawn, ac yn awyddus i glosio at Dduw. |
| 3 |
| ‘Pam oeddet ti ddim yn edrych pan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw, ‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw pan oedden ni'n cosbi ein hunain?’ Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunain ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd! |
| 4 |
| Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio, Dim dyna'r ffordd i ymprydio os ydych chi eisiau i Dduw wrando. |
| 5 |
| Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau? — diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain, ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo? Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw? Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio, yn ddiwrnod sy'n plesio'r ARGLWYDD? |
| 6 |
| Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau: cael gwared â chadwyni anghyfiawnder; datod rhaffau'r iau, a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd; dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl. |
| 7 |
| Rhannu dy fwyd gyda'r newynog, rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartref a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth. Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu. |
| 8 |
| Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr, a byddi'n cael dy adfer yn fuan. Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di, a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl. |
| 9 |
| Wedyn, byddi'n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb; byddi'n gweiddi, a bydd e'n dweud, ‘Dw i yma’. Rhaid cael gwared â'r iau sy'n gorthrymu, stopio pwyntio bys, a siarad yn gas. |
| 10 |
| Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu'r newynog, a chwrdd ag anghenion y rhai sy'n diodde — Wedyn bydd dy olau yn disgleirio yn y tywyllwch, a bydd dy dristwch yn troi'n olau fel canol dydd! |
| 11 |
| Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser; yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth, ac yn dy wneud yn gryf. Byddi fel gardd wedi ei dyfrio, neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu. |
| 12 |
| Byddi'n ailgodi'r hen adfeilion, ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini. Byddi'n cael dy alw yn ‛Atgyweiriwr y waliau‛ ac yn ‛Adferwr y strydoedd‛, i bobl fyw yno. |
| 13 |
| Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth, a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i; os gwnei di alw'r Saboth yn ‛bleser‛, parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD, dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau, plesio dy hun, a siarad fel y mynni — |
| 14 |
| wedyn gelli ddisgwyl i'r ARGLWYDD gael ei blesio. Byddi'n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro, a cei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/058.mp3
66
58