×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseia 6

1
Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml.
2
Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg.
3
Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, "Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant."
4
Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tu375? gan fwg.
5
Yna dywedais, "Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf 'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd."
6
Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor;
7
ac fe'i rhoes i gyffwrdd 'm genau, a dweud, "Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd 'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod."
8
Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud, "Pwy a anfonaf? Pwy a drosom ni?" Atebais innau, "Dyma fi, anfon fi."
9
Dywedodd, "Dos, dywed wrth y bobl hyn, 'Clywch yn wir, ond peidiwch deall; edrychwch yn wir, ond peidiwch dirnad.'
10
Bras galon y bobl, trymha eu clustiau, cau eu llygaid; rhag iddynt weld 'u llygaid, clywed 'u clustiau, deall 'u calon, a dychwelyd i'w hiachu."
11
Gofynnais innau, "Pa hyd, ARGLWYDD?" Atebodd, "Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithio heb drigiannydd, a'r tai heb bobl, a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd;
12
nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell, a difrod mawr yng nghanol y wlad.
13
Ac os erys y ddegfed ran ar l ynddi, fe'i llosgir drachefn; fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith, fel boncyff o'r uchelfa. Had sanctaidd yw ei boncyff."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau