Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun — yr ARGLWYDD holl-bwerus.”
Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a talwyd iawn am dy bechod.”
Gwna nhw'n ystyfnig, tro eu clustiau'n fyddar, a chau eu llygaid — rhag iddyn nhw weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall go iawn, a throi a chael eu hiacháu.”
Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb: “Nes bydd trefi wedi eu dinistrio a neb yn byw ynddyn nhw; tai heb bobl ynddyn nhw, a'r tir wedi ei ddifetha, a'i adael yn ddiffaith.”
Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl, fydd hwnnw eto'n cael ei losgi? “Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi ei thorri i lawr, a dim ond boncyff ar ôl. Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd, fel had sanctaidd.”