Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio, daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba; byddant i gyd yn cludo aur a thus, ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.
Cesglir holl ddefaid Cedar atat, a bydd hyrddod Nebaioth at dy wasanaeth; offrymir hwy'n aberthau derbyniol ar fy allor, ac ychwanegaf at ogoniant fy nhu375? gogoneddus.
Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau Tarsis ar y blaen, i ddod 'th blant o bell, a'u harian a'u haur gyda hwy, er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel; oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.
Daw plant dy ormeswyr atat yn ostyngedig; bydd pob un a'th ddiystyrodd yn ymostwng wrth dy draed; galwant di yn Ddinas yr ARGLWYDD, Seion Sanct Israel.
Cei sugno llaeth cenhedloedd, a'th fagu ar fronnau brenhinoedd, a chei wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy achubydd, ac mai Duw cadarn Jacob yw dy waredydd.
"Yn lle pres dygaf aur, yn lle haearn dygaf arian, ac yn lle coed, bres, yn lle cerrig, haearn; gwnaf dy lywodraethwyr yn heddychol a'th feistradoedd yn gyfiawn.
"Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd, ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos; ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni dibaid i ti, a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.