Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| “Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod. Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat! |
| 2 |
| Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear, a thywyllwch dudew dros y gwledydd; bydd yr ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti, a bydd ei ysblander i'w weld arnat. |
| 3 |
| Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni, a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair. |
| 4 |
| Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti! Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell, a dy ferched yn cael eu cario adre. |
| 5 |
| Pan weli hyn byddi'n wên i gyd; bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr. Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti, a cyfoeth y gwledydd yn dod atat. |
| 6 |
| Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd; camelod o Midian, Effa a Sheba. Byddan nhw'n cario aur a thus, ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD. |
| 7 |
| Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat, a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio; byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i. Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth! |
| 8 |
| Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl, ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod? |
| 9 |
| Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau masnach Tarshish ar y blaen. Maen nhw'n dod â dy blant o bell, a'u harian a'u haur hefo nhw, i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw — Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu. |
| 10 |
| Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau, a'u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di. Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i'n ddig dw i am ddangos tosturi a bod yn garedig. |
| 11 |
| Bydd dy giatiau ar agor drwy'r amser; fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos — er mwyn i gyfoeth y cenhedloedd a'u brenhinoedd gael ei gario i mewn. |
| 12 |
| Bydd y wlad neu'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio; bydd y gwledydd hynny'n cael eu dinistrio'n llwyr. |
| 13 |
| Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti — coed cypres, planwydd a pinwydd i harddu fy nghysegr, ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys. |
| 14 |
| Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesu yn dod o dy flaen ac ymgrymu. Bydd y rhai oedd yn dy gasáu yn plygu'n isel ar y llawr wrth dy draed di. Byddan nhw'n dy alw di yn ‘Ddinas yr ARGLWYDD’, a ‘Seion Un Sanctaidd Israel.’ |
| 15 |
| Yn lle bod wedi dy wrthod, a dy gasáu, a neb yn mynd trwot ti, bydda i'n dy wneud di'n destun balchder am byth — yn llawenydd o un genhedlaeth i'r llall. |
| 16 |
| Byddi'n yfed o laeth y cenhedloedd, ac yn sugno bronnau brenhinoedd. Wedyn byddi di'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub, Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy'n dy ollwng di yn rhydd. |
| 17 |
| Bydda i'n dod ag aur yn lle pres ac arian yn lle haearn; pres yn lle coed a haearn yn lle cerrig. ‛Heddwch‛ fydd yn llywodraethu arnat, a ‛Cyfiawnder‛ fydd dy feistri. |
| 18 |
| Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto, a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau. Byddi'n galw dy waliau yn ‛Achubiaeth‛ a dy giatiau yn ‛Foliant‛. |
| 19 |
| Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd, na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos. Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat. |
| 20 |
| Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy, a llewyrch y lleuad ddim yn cilio; yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd dy gyfnod o alaru drosodd. |
| 21 |
| Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn, ac yn etifeddu'r tir am byth. Nhw ydy'r blagur dw i wedi ei blannu, gwaith fy llaw sy'n fy anrhydeddu. |
| 22 |
| Bydd yr un fechan yn troi yn llwyth; a'r lleiaf yn troi'n genedl fawr. Fi ydy'r ARGLWYDD! Pan ddaw'r amser iawn bydda i'n gwneud hyn ar frys!” |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/060.mp3
66
60