Pwy yw hwn sy'n dod o Edom, yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch; y mae ei wisg yn hardd, a'i gerddediad yn llawn o nerth? "Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder, ac yn abl i waredu."
"Bm yn sathru'r grawnwin fy hunan, ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi; sethrais hwy yn fy llid, a'u mathru yn fy nicter. Ymdaenodd eu gwaed dros fy nillad nes cochi fy ngwisgoedd i gyd;
Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD, a chanu ei glodydd am y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni, a'i ddaioni mawr i du375? Israel, am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd, ac o lawnder ei gariad di-sigl.
Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt, am Moses a'i bobl. Ple mae'r un a ddygodd allan o'r mr fugail ei braidd? Ple mae'r un a roes yn eu canol hwy ei ysbryd sanctaidd,
Edrych i lawr o'r nefoedd, o'th annedd sanctaidd, ardderchog, a gwl. Ple mae dy angerdd a'th nerth, tynerwch dy galon a'th dosturi? Paid ag ymatal rhagom,