Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Pwy ydy hwn sy'n dod o Edom — o Bosra a'i ddillad yn goch? Pwy ydy'r un, yn ei wisgoedd brenhinol, sy'n martsio'n hyderus a diflino. “Fi ydy e, sy'n cyhoeddi cyfiawnder; yr un sy'n gallu achub.” |
| 2 |
| Pam mae dy ddillad yn goch? Maen nhw fel dillad un sy'n sathru grawnwin. |
| 3 |
| “Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun; doedd neb o gwbl gyda fi. Sethrais nhw yn fy llid, a'i gwasgu dan draed yn fy nicter, nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad; dw i wedi staenio fy nillad i gyd. |
| 4 |
| Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl, a'r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod. |
| 5 |
| Pan edrychais, doedd neb yno i helpu; ron i'n synnu fod neb yno i roi cymorth. Felly dyma fi'n mynd ati i achub, a'm dicter yn fy ngyrru ymlaen. |
| 6 |
| Sethrais genhedloedd yn fy llid, a'u meddwi nhw gyda fy nig, a thywallt eu gwaed ar lawr.” |
| 7 |
| Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD, a dw i'n mynd i ganu ei glod — am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud i ni, a'r holl bethau da mae e wedi eu gwneud i bobl Israel. Mae e mor drugarog ac mor hael! |
| 8 |
| Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw, plant fydd ddim yn anffyddlon.” Felly dyma fe'n eu hachub nhw. |
| 9 |
| Pan oedden nhw'n diodde roedd e'n diodde hefyd, a dyma fe'n anfon ei angel i'w hachub. Yn ei gariad a'i drugaredd, daeth i'w gollwng nhw'n rhydd. Cododd nhw, a'u cario nhw ar hyd y cyfnod hwnnw. |
| 10 |
| Ond dyma nhw'n gwrthryfela, ac yn tristáu ei Ysbryd Glân. Felly trodd yn elyn iddyn nhw, ac ymladd yn eu herbyn nhw. |
| 11 |
| Yna dyma fe'n cofio'r hen ddyddiau — Moses … a'i bobl! Ble mae'r Un ddaeth â nhw drwy'r Môr gyda bugeiliaid ei braidd? Ble mae'r Un wnaeth roi ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw — |
| 12 |
| yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses? Ble mae'r Un wnaeth hollti'r môr o'u blaenau a gwneud enw iddo'i hun am byth? |
| 13 |
| Ble mae'r Un wnaeth eu harwain nhw drwy'r dyfnder fel ceffyl yn carlamu ar dir agored? |
| 14 |
| Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i'r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun! |
| 15 |
| Edrych i lawr o'r nefoedd, o'r lle sanctaidd a hardd ble rwyt ti'n byw! Ble mae dy sêl a dy nerth di bellach? Ble mae hiraeth dy galon a dy gariad? Paid dal yn ôl, |
| 16 |
| achos ti ydy'n Tad ni! Hyd yn oed petai Abraham ddim yn cymryd sylw, ac Israel ddim yn ein nabod ni, ti ydy'n Tad ni, O ARGLWYDD! Ti ydy'r Un sy'n ein rhyddhau ni! — dyna dy enw di ers y dyddiau hynny. |
| 17 |
| ARGLWYDD, pam wyt ti wedi gadael i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd di? Pam wyt ti wedi'n gwneud ni'n ystyfnig nes ein bod ddim yn dy barchu di? Maddau i ni, er mwyn dy weision, dy lwythau di dy hun! |
| 18 |
| Cafodd dy bobl feddiannu'r tir am gyfnod byr, ond wedyn sathrodd dy elynion dy gysegr dan draed. |
| 19 |
| Ni oedd dy bobl di o'r dechrau — wnest ti erioed lywodraethu drostyn nhw, a gawson nhw erioed eu henwi ar dy ôl di. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/isaiah/063.mp3
66
63