Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr, a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen, |
| 2 |
| fel tn yn llosgi prysgwydd, fel du373?r yn berwi ar dn, er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion, ac i'r cenhedloedd grynu yn dy u373?ydd! |
| 3 |
| Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl, daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen. |
| 4 |
| Ni chlywodd neb erioed, ni ddaliodd clust, ni chanfu llygad unrhyw Dduw ond tydi, a wni ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho. |
| 5 |
| 'Rwyt yn cyfarfod 'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder, y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd. Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu, eto 'roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn. |
| 6 |
| Aethom i gyd fel peth aflan, a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron; yr ydym i gyd wedi crino fel deilen, a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt. |
| 7 |
| Ac nid oes neb yn galw ar dy enw, nac yn trafferthu i afael ynot; cuddiaist dy wyneb oddi wrthym, a'n traddodi i afael ein camweddau. |
| 8 |
| Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd. |
| 9 |
| Paid digio'n llwyr, ARGLWYDD, na chofio camwedd am byth. Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd. |
| 10 |
| Aeth dy ddinasoedd sanctaidd yn anialwch; y mae Seion yn anialwch a Jerwsalem yn anghyfannedd. |
| 11 |
| Y mae ein tu375? sanctaidd a hardd, lle y byddai'n hynafiaid yn dy foliannu, wedi mynd yn lludw, a phob peth annwyl gennym yn anrhaith. |
| 12 |
| A ymateli di, ARGLWYDD, oherwydd y pethau hyn? A dewi di, a'n cystuddio'n llwyr? |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/isaiah/064.mp3
66
64